Mae’r nifer o bobol hoyw, lesbiaidd a deurywiol yng Nghymru sydd wedi profi trosedd casineb wedi cynyddu 82% dros bedair blynedd, yn ôl ystadegau newydd.

Ar sail pôl o dros 1,000 gan YouGov eleni, mae’n debyg bod un o bob pump (20%) o bobol LGBT yng Nghymru wedi wynebu troseddau casineb – 11% oedd y ganran yn 2013. 

Hefyd mae tua hanner o bobol drawsrywiol wedi profi trosedd neu achos o gasineb oherwydd eu hunaniaeth rhyw, dros y deuddeg mis diwethaf.

Mae cyhoeddiad yr ystadegau yn cyd-daro â lansiad ymgyrch codi ymwybyddiaeth ‘Dewch Allan dros LGBT’ gan elusen Stonewall Cymru.

“Gweithio gyda’n gilydd”

“Er bod pethau wedi gwella cryn dipyn o ran gwella hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru, mae’n glir bod llawer o waith i’w wneud cyn bydd pobol LGBT yn medru teimlo’n ddiogel, a’n rhydd i fod ei hunain,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru. 

“Mae’r ymchwil yma’n dangos nad oes modd i ni fod yn hunanfodlon o ran amddiffyn yr hawliau rydym wedi gweithio’n galed i’w diogelu.

“Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd yn awr, er mwyn symud at sefyllfa lle nid oes unrhyw unigolyn yn wynebu casineb oherwydd eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rhyw.”