Bydd ymchwiliadau yn parhau heddiw wedi i beilot farw pan blymiodd ei awyren i’r ddaear ym Maes Awyr Caernarfon yn Dinas Dinlle.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r safle am 6.29yh, ddydd Mercher (Medi 6), wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau bod awyren fechan wedi taro’r llain lanio, ac ar dân.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a’r Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr ynghlwm â’r ymchwiliad.

“Mae cordyn wedi ei osod o amgylch y safle ac rydym yn annog y cyhoedd i gadw draw o’r ardal er mwyn galluogi’r gwasanaethau brys i ddelio â’r digwyddiad,” meddai’r Prif Arolygydd, Sharon McCain.

Mae Maes Awyr Caernarfon yn gartref i Ambiwlans Awyr Cymru a hofrenyddion Gwylwyr y Glannau.