Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi damwain ffordd ddifrifol rhwng lori a char yn Sir Benfro ddoe (dydd Mawrth, Medi 5).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar briffordd yr A478 tua 8.30yb.

Roedd car Ford KA gwyn yn teithio i gyfeiriad pentref Llandissilio, a lori Mercedes wen yn mynd i’r cyfeiriad arall, i gyfeiriad Efailwen.

Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhyw beth, i gysylltu ar y rhif 101.