Mae’r Mesur Diddymu, sy’n dweud sut y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn anwybyddu’r pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru a’r Alban, yn ôl adroddiad newydd i’r Cynulliad.

Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae’n fygythiad i sefydlogrwydd yr Undeb, ac mae ynddo o leiaf dri gwendid sylfaenol, sef:

  • fod perygl y gallai’r ddeddf gael ei hystyried yn un sy’n troi cefn ar ddatganoli;
  • mae’n anfoddhaol fod Llywodraeth Prydain yn penderfynu ar bolisïau newydd ar draws y Deyrnas Unedig ar faterion nad ydyn nhw wedi’u neilltuo’n unigryw i San Steffan fel Llywodraeth Loegr;
  • mae pwerau helaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o’r Mesur, ac mae’r trefniadau er mwyn craffu ar y Senedd yn annigonol. 

Mae’r adroddiad yn awgrymu y dylai’r Cynulliad drafod “ar frys” gyda Thŷ’r Cyffredin a’r Arglwyddi i ddatblygu dulliau effeithiol o graffu “fel blaenoriaeth”, a darganfod dulliau o ddod i gonsensws drwy holl wledydd Prydain.

Dywed Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, Auriol Miller ,fod “amserau eithriadol yn gofyn am fesurau eithriadol”, ond bod y Mesur yn “brin o dryloywder a chraffu cadarn”. Dywed hefyd fod y Mesur yn “dilyn patrwm ad hoc” sydd wedi effeithio ar y berthynas rhwng gwledydd Prydain ers dechrau datganoli.

“Ar adegau, mae’n amlwg na fydd buddiannau Lloegr a’r gwledydd eraill yn lliniaru, er enghraifft o ran ein sectorau amaeth tra gwahanol,” meddai. 
 

“Sut fydd Llywodraeth y DU yn adnabod buddiannau cyffredin o fuddiannau mwy cul Lloegr?”

Anfoddhaol
 

Mae’r adroddiad yn nodi ei bod yn anfoddhaol fod y manylion sy’n effeithio ar setliadau datganoli’n cael eu cynnwys mewn amserlenni sy’n debygol o fod yr un hyd â rhai o brif gymalau’r Mesur, ac mae’n annog y Senedd i adolygu’r amserlen “cyn gynted â phosib”.

Mae hefyd wedi mynegi pryder y gallai rhai deddfau gael eu pasio heb eu bod wedi cael eu craffu’n ddigonol.