Yr Ysgwrn
Bydd ffermdy’r Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn, yn cael ei agor yn swyddogol heddiw – ganrif union ers cynnal seremoni’r Gadair Ddu ym mhrifwyl Penbedw yn 1917.

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd yn agor y safle, ac mi fydd nai’r bardd enwog, Gerald Williams, hefyd yn bresennol.

Cafodd cartref bardd y gadair ddu ei ailagor i’r cyhoedd ym mis Mehefin wedi gwaith adnewyddu ar y tŷ ac adeiladau’r fferm.

Derbyniodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, £3.1m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £300,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn adnewyddu’r safle.

Gwaith adnewyddu

Gyda’r buddsoddiad yma mae’r corff wedi medru atgyweirio ystafelloedd a dodrefn yr Ysgwrn, darparu adnoddau addysg yno, ac wedi gwella mynediad at y safle.

Mae’r tŷ wedi ei adfer i edrych fel y byddai ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf ac mae Beudy Llwyd wedi cael ei ddatblygu’n adeilad croeso.

Y tu allan i’r prif adeiladau, mae cwt mochyn wedi ei droi’n dŷ ystlumod, mae’r corlannau moch wedi eu hail cyflwyno ac mae boelerdy biomas wedi’i hadeiladu.

“Rhannu negeseuon”

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a Mr Gerald Williams, am eu cefnogaeth, eu gweledigaeth a’u brwdfrydedd dros y pum mlynedd diwethaf i sicrhau ein bod ni heddiw yn agor y safle hwn yn swyddogol,” meddai Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Eryri.

“Dros y blynyddoedd, mae’n staff wedi gweithio’n agos gyda Mr Williams ac mae’n fraint ein bod ni’n cael bod yn gyfrifol am ofalu a gwarchod yr eiddo cenedlaethol pwysig hwn.

“Ein bwriad yw cadw drws Yr Ysgwrn yn agored er mwyn rhannu negeseuon parhaol Yr Ysgwrn am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel ac ar yr un pryd,  cynyddu dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o rinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri.”