Mi fethodd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ag ymateb o fewn y targed amser i fwy na 40% o’r cwynion a dderbyniodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau diweddra’.

Mewn llythyr at y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn nodi bod y saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi derbyn cyfanswm o 5,861 o gwynion rhwng 2016 a 2017 – ond dim ond 2,393 (45%) o’r rheiny a gafodd ymateb o fewn y targed o 30 diwrnod.

Bwrdd Iechyd Cwm Taf oedd gyda’r record gwaethaf o’r byrddau i gyd, gyda 74.5% o’r cwynion a dderbyniodd heb gael eu hymateb o fewn 30 diwrnod.

Derbyniodd Abertawe Bro Morgannwg wedyn y rhif uchaf o gwynion, sef 1,249, gyda 478 (38%) o’r rheiny’n cael eu hymateb o fewn y targed.

Daw’r canlyniadau hyn yn dilyn adroddiad flynyddol a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod cwynion sy’n ymwneud â materion iechyd yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 8%.

Angen deddfwriaeth newydd

Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, mae angen cydnabod bod y Gwasanaeth Iechyd o dan “bwysau sylweddol” yng Nghymru a bod y canlyniadau hyn yn dangos bod gofal iechyd yn parhau i fod yn “loteri”.

“Mae angen deddfwriaeth glir a phendant arnom ni”, meddai, “fel y gall cleifion ddisgwyl y bydd eu pryderon yn cael eu hymateb o fewn amser penodol – neu fe fydd defnyddwyr y gwasanaeth yn colli hyder ynddo.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.