Mae grŵp ymgyrchu blaenllaw yn “hynod siomedig” ar ôl gweld hysbyseb ar gyfer swyddi yn y sector addysg yng Nghymru yn nodi nad yw’n angenrheidiol i ymgeiswyr fedru’r Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi eu pryderon ar ôl gweld y swyddi Arweinyddion Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol, sydd wedi’u lleoli yn y pedwar Consortiwm Addysg yng Nghymru, yn cael eu hysbysebu ym mhapus newydd y Guardian gyda’r angen i ymgeiswyr fedru siarad Cymraeg yn cael ei nodi fel “dymunol”.

Rôl y swyddi fydd paratoi awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ar gyfer diwygiadau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol – diwygiadau a fydd yn trawsnewid y system ar gyfer cefnogi plant a phobol ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Angen “newid y drefn”

Ond yn ôl Dyfodol i’r Iaith, mae’r ffaith nad yw’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn hanfodol ar gyfer y swyddi “ddim yn ddigon”.

“Ar hyd y blynyddoedd”, meddai’r grŵp, “mae’r Gymraeg wedi cael lle annigonol ym maes addysg arbennig.”

“Mae’n bryd newid y drefn, fel bod plant ysgolion Cymraeg yn cael eu trin yn gyfartal o ran eu sgiliau iaith a’u datblygiad addysgol.”

Mae’r mudiad felly yn mynnu ei bod yn angenrheidiol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus “gwybodaeth drylwyr” o sefyllfa ieithyddol Cymru.

“Mae gallu trafod y maes yn y Gymraeg yn rhan annatod o hyn”, meddan nhw, “gan gynnwys gwybod yn drylwyr am anghenion disgyblion Cymraeg a dwyieithog.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Consortia Addysg Rhanbarthol yng Nghymru am ymateb.