Llun: PA
Mae Aelod Cynulliad Arfon wedi awgrymu y gallai datganoli’r gwasanaeth trenau arwain at “drawsnewidiad” i economi ac isadeiledd trafnidiaeth Cymru.

Daw sylw Siân Gwenllian mewn datganiad lle mae’n mynegi pryderon am safon gwasanaethau trên Arriva yng ngogledd Cymru.

Yn y datganiad mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn nodi bod “amlder” ynghyd â “safon” gwasanaethau trenau yn broblem, a bod staff yn gweithio “dan amodau annerbyniol.”

“Trawsnewidiad”

Mae’n awgrymu mai datganoli Network Rail i Gymru yw’r ateb, ac yn tynnu sylw at esiamplau yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.

“Petai Network Rail wedi ei ddatganoli i Gymru fel sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, o leia’ wedyn mi fyddai Cymru’n derbyn arian ychwanegol drwy’r Fformiwla Barnet,” meddai.

“Ond oherwydd bod y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur wedi rhwystro datganoli Network Rail fel rhan o’r cytundeb Gwŷl Ddewi 2015, mi fydd Cymru ar ei cholled o £4 biliwn. Dychmygwch y trawsnewidiad fyddai’n bosib i economi Cymru a’r isadeiledd trafnidiaeth.”

“Colli cyfle”

Blwyddyn nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pwy fydd yn derbyn y cytundeb rheilffyrdd yng Nghymru – cytundeb sydd ar hyn o bryd dan ofal Arriva.

Gan mai gwasanaethau preifat sydd yn cynnig am y cytundeb ar hyn o bryd, mae Siân Gwenllian yn pryderu bod y Blaid Lafur yn “colli cyfle” i wladoli’r gwasanaeth.