Mae dyn 32 oed o Bowys ymhlith pedwar aelod o’r fyddin sydd wedi cael eu harestio o dan y Ddeddf Frawychiaeth ar amheuaeth o fod yn aelodau o fudiad adain dde eithafol sydd wedi ei wahardd, meddai heddlu canolbarth Lloegr.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod y pedwar yn gwasanaethu gyda’r Fyddin ar hyn o bryd.

Cafodd y pedwar dyn – sydd hefyd yn cynnwys un 22 oed o Birmingham, un 24 oed o Ipswich a dyn 24 oed o Northampton – eu harestio fel rhan o gyrch a oedd wedi cael ei gynllunio gan yr heddlu ac maen nhw wedi pwysleisio nad oedd “bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd.”

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu bod y dynion wedi’u harestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chomisiynu, paratoi ac annog gweithredoedd brawychol ac ar amheuaeth o fod yn aelodau o’r mudiad adain dde eithafol National Action.

Mae’r pedwar dyn yn cael eu cadw yng ngorsaf yr heddlu yng nghanolbarth Lloegr ac mae nifer o eiddo yn cael eu harchwilio.

National Action oedd y mudiad adain dde eithafol cyntaf i gael ei wahardd o dan gyfreithiau brawychol ym mis Rhagfyr 2016.

Mae’n golygu ei fod yn drosedd i fod yn aelod o’r grŵp neu i annog cefnogaeth o’r mudiad ac y gallai arwain at gyfnod yn y carchar o hyd at 10 mlynedd.

Cafodd National Action ei sefydlu yn 2013 ac mae gan y mudiad ganghennau ar draws y Deyrnas Unedig.

“Erchylltra brawychiaeth”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies: “Roeddwn wedi synnu i glywed gan y Weinyddiaeth Amddiffyn bod dyn 32 oed o Bowys, ac aelod o’r Fyddin, wedi cael ei arestio gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr o fod a chysylltiadau honedig â grŵp gwaharddedig o neo-Natsïaid.

“Mae arestio aelod o’r fyddin o Bowys, ynghyd â thri aelod arall o’r fyddin o wahanol ardaloedd yn y Deyrnas Unedig yn dangos bod erchylltra brawychiaeth yn medru bodoli yn unrhyw le, ac mae’n rhaid i ni barhau’n wyliadwrus bob tro.

“Mae’r grŵp yr wyf yn cyfeirio tuag ato, National Action, yn erchyll. Maen nhw’n hiliol, yn wrth-Semitaidd ac yn homoffobig; ac yn cyfeirio at eu hunain fel mudiad ieuenctid Sosialaidd Cenedlaethol … Does dim lle i’r fath bobol ar strydoedd gwlad waraidd.”