Datblygiad tai Redrow (Llun: David Wright CCA 2.0)
Er gwaethaf pryderon dros gyflwr y farchnad dai, mae’r cwmni adeiladu tai Redrow o Sir y Fflint wedi cyhoeddi eu helw mwyaf erioed.

Cynyddodd refeniw’r cwmni o 20% i £1.66 biliwn yn ystod y flwyddyn hyd at Fehefin 30, a chynyddodd eu helw cyn treth o  26% i £315 miliwn.

Yn ystod yr un cyfnod mi wnaeth prisiau gwerthu eu tai ar gyfartaledd, godi  7% i £309,800.

“Ry’n ni wedi derbyn y canlyniadau eithriadol yma, er yr ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd yn sgil Brexit,” meddai Prif Weithredwr Redrow, John Tutte.

Tyfiant swrth

Daw’r canlyniadau er yr arwyddion bod y farchnad eiddo ehangach yn arafu yn sgil twf economaidd swrth.

Yn ôl ystadegau diweddaraf cymdeithas adeiladu Nationwide, cwympodd prisiau tai  0.1% ym mis Awst – arwydd bod chwyddiant yn cael effaith ar awydd y cyhoedd i brynu tai.