Mae dyn wedi marw ar ôl tân mewn adeilad yn Llandudno bore dydd Llun.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad yn Stryd Builder am 9.21yb dydd Llun, 4 Medi.

Cafodd un person eu cludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ond bu farw’n ddiweddarach. Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Fe lwyddodd diffoddwyr i ddod a’r tân dan reolaeth erbyn 10.53yb.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad i achos y tân.