Pencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon
Mae criw o ymgyrchwyr lleol wedi bod yn cynnal gwrthdystiad tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon heddiw i alw am gyfleusterau meddygol ym Mlaenau Ffestiniog.

Daw hyn wrth i Bwyllgor Craffu Cyngor Gwynedd gynnal gwrandawiad arbennig gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Amddiffyn Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog.

Mae’r ymgyrchwyr yn galw am gyflwyno mwy o welyau, peiriant Pelydr-X ac adran mân anafiadau yn rhan o’r ysbyty newydd sy’n cael ei hadeiladu ym Mlaenau Ffestiniog.

Gwelyau, Pelydr-X, Mân anafiadau

Ym mis Rhagfyr 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw’n buddsoddi £3.9m i ddatblygu canolfan iechyd newydd ym Mlaenau Ffestiniog gan ei hadeiladu ar safle Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog.

Mae’r datblygiad yn un o dair canolfan iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o gynllun i drawsnewid gofal iechyd y gogledd gyda lleoliadau eraill yn Llangollen a’r Fflint.

Ond esboniodd cynghorydd ward Diffwys a Maenofferen wrth golwg360 fod yna alw am ailgyflwyno gwelyau fel rhan o’r ganolfan iechyd newydd ym Mlaenau Ffestiniog.

“Maen nhw wedi tynnu deuddeg o welyau o’r ysbyty, maen nhw wedi tynnu’r pelydr-X a’r adran mân anafiadau,” meddai.

“Mae pobol yn gorfod teithio 14 milltir i gael y pethau yma rŵan, ac maen nhw’n gwario £3.9m ar yr adeilad newydd,” meddai wedyn.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Craffu lunio argymhellion drafft am y mater gyda chefnogaeth y swyddogion. Fe fyddan nhw’n eu cyflwyno wedyn yn ystod cyfarfod nesaf y pwyllgor ar Fedi 21.