Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol Damian Green wedi dweud ei fod yn hyderus y gall wneud cynnydd yn y trafodaethau Brexit gyda Llywodraeth Cymru.

Fe fydd Damian Green ac Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yng Nghaerdydd heddiw i drafod trefniadau o ran datganoli pwerau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei drafod ddydd Iau ar ôl i  Aelodau Seneddol ddychwelyd i San Steffan yn dilyn y gwyliau haf. Yn ôl y Llywodraeth mae angen adnabod pa feysydd polisi fydd yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

Yn ystod yr ymweliad a Chaerdydd mae disgwyl i Damian Green ac Alun Cairns hefyd ymweld â Phrifysgol Caerdydd i gynnal cyfarfod gyda chynrychiolwyr o fyd busnes, amaeth a’r trydydd sector yng Nghymru i drafod Brexit.

Wrth siarad cyn ei ymweliad, dywedodd Damian Green bod y ddwy lywodraeth yn gytûn bod angen amddiffyn buddiannau marchnad sengl y Deyrnas Unedig a gweld rhagor o bwerau yn cael eu trosglwyddo i Gaerdydd.

“Mae hyn yn ymwneud a sicrhau ein bod yn barod i adael yr Undeb Ewropeaidd. Y farchnad sengl yn y DU yw un o’n hasedau mwyaf, gan sicrhau bod gwahanol rannau o’r DU yn gallu masnachu’n hawdd gyda’i gilydd.”

Ychwanegodd ei bod yn “debygol” y bydd gan Gymru ragor o bwerau erbyn diwedd y broses.

Gwelliannau

Fe fu Carwyn Jones yn cwrdd â  Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon fis diwethaf i drafod eu pryderon am y Bil ac maen nhw’n “gweithio i gytuno ar welliannau posibl i’r Bil” gan ddweud ei fod yn “ymgais haerllug i ganoli’r pwerau penderfynu yn San Steffan, gan fynd yn hollol groes i’r pwerau a’r cyfrifoldebau datganoledig presennol.”

Dywedodd Alun Cairns ar y Post Cyntaf y bore ma bod angen i lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru,  weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r cytundeb gorau.

“Mae angen tynnu pawb yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, tu ol i’r Llywodraeth.. er mwyn  cael y pecyn gorau,” meddai.