Mae dyn 47 oed o Gwm-gors wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio achosi niwed corfforol difrifol i gerddwyr drwy yrru ar balmant yn Abertawe.

Cafodd ei arestio ar Stryd Fawr y ddinas toc cyn 1.15 fore Sul.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad cyn i’r cerbyd ffoi ar gyflymdra uchel.

Cafodd y dyn ei arestio’n ddiweddarach, ac mae e yn y ddalfa yn Abertawe.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.