Mae Heddlu’r De wedi dod o hyd i ddyn oedrannus o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr yr oedden nhw wedi bod yn gofidio amdano.

Roedd Laurence Brophy, sy’n 85 oed, wedi mynd am dro ar ei ben ei hun ddydd Iau ar hyd llwybr Taith Taf o Gaerdydd i Aberhonddu ac yn ôl, ac roedd wedi bwriadu gwersylla dros nos.

Doedd neb wedi’i weld ers canol nos, nos Iau yn Nhongwynlais.