Tom Jones (Llun o'i dudalen Facebook)
Mae’r canwr o Bontypridd, Tom Jones, wedi gohirio ei daith o’r Unol Daleithiau – a hynny ar gyngor meddygol.

Mae’r seren 77 oed wedi anfon ei “ymddiheuriadau cywiraf” at ei ddilynwyr ar wefan gymdeithasol Twitter, gan ddweud y bydd y cyngherddau’n cael eu hail-drefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Fe ddaeth cyhoeddiad bum niwrnod cyn yr oedd disgwyl i’r daith ddechrau yn Bethlehem, Pennsylvania ddydd Mercher nesaf.

“O dderbyn cyngor meddygol, mae Syr Tom Jones wedi cyhoeddi bod yn rhaid iddo, yn anffodus, ohirio ei  daith o’r Unol Daleithiau, yr oedd disgwyl iddi ddechrau ddydd Mercher, Medi 6,” meddai datganiad ar ei ran.

“Mae dyddiadau cyngherddau yn cael eu hail-drefnu ar gyfer misoedd Mai a Mehefin y flwyddyn nesaf,” meddai’r datganiad wedyn. “Fe fydd tocynnau yn ddilys ar gyfer y dyddiadau newydd, ac fe fyddwn yn cyhoeddi’r dyddiadau newydd gynted â phosib.”