Mae crwner wedi dod i’r casgliad mai nam trydanol mewn sychwr dillad oedd achos “mwyaf tebygol” tân a laddodd ddau ddyn mewn fflat yn Llanrwst.

Bu farw Bernard Hender, 19, a Doug McTavish, 39, yn dilyn tân mewn fflat ym mis Hydref 2014.

Yn ol y crwner cynrothwyol, David Lewis, nam gyda’r sychwr dillad oedd achos mwyaf tebygol y tân, ac mai nam trydanol oedd hwn.

Mae cwmni Whirlpool, gwneuthurwyr y sychwr dillad yn y fflat yn Llanrwst, wedi ymateb i ganlyniad y cwest trwy ddweud y byddan nhw’n edrych eto ar ddiogelwch eu cynnyrch.