Llun cyhoeddusrwydd NSPCC sy'n dweud bod plant mewn gofal mewn mwy o beryg na phlant eraill (NSPCC www.nspcc.org.uk)
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu treulio pedair blynedd yn archwilio profiadau plant a phobl ifanc sydd mewn gofal.

Y gyfres o adroddiadau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fydd yr ymchwiliad mwya’ o’i fath yn unman yng ngwledydd Prydain ac fe fydd yn canolbwyntio ar werth ariannol gwasanaethau cyhoeddus i blant a phobol ifanc mewn gofal.

Yn ôl y ffigyrau diweddara’, mae 90 o blant allan o bob 10,000 o bobol yn mynd i ofal yng Nghymru.

Mae hynny 50% yn uwch nag yn Lloegr lle mae’r gyfradd yn 60 ym mhob 10,000 o bobol.

Gwario’n codi

Yn y pum mlynedd rhwng 2010-11 a 2015-16, fe gynyddodd y gwariant ar wasanaethau i blant mewn gofal dros 35% i £244 miliwn yn 2015-16.

Bwriad y Pwyllgor yw canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant a phobol ifanc sydd wedi profi gofal, gan sicrhau bod yr arian sy’n cael ei wario wedi’i dargedu ar gyfer y meysydd cywir ar yr amser cywir.

Mae tystiolaeth bod pobol sydd mewn gofal yn ystod eu hieuenctid yn fwy tebyg o gael trafferthion yn nes ymlaen, gan gynnwys problemau torri cyfraith.

Gofal plant – parhau’n flaenoriaeth

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, Nic Ramsay, sef Cadeirydd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dyma’r “tro cyntaf” yng ngwledydd Prydain i bwyllgor seneddol fynd ati i achwilio’r mater hwn “dros yr hirdymor.”

“R’yn ni wedi cymryd yr agwedd hon am ein bod am sicrhau bod profiadau plant a phobol ifanc mewn gofal yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn cael sylw gwleidyddol go iawn.”