Pant Teg, safle tirlithriad yn Ystalyfera
Mae
golwg360 ar ddeall bod grŵp o’r trigolion sydd wedi gorfod symud allan o’u cartrefi yn dilyn cyfres o dirlithriadau yn Ystalyfera yn bwriadu cynnal protest yn erbyn y Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r trigolion yn dweud eu bod wedi cael eu gadael yn y tywyllwch ac nad yw’r Cyngor yn dweud y gwir wrthyn nhw.

Byddan nhw’n cynnal y brotest ar Fedi 7, y tu allan i gyfarfod cyhoeddus ar y tirlithiad sydd wedi’i drefnu gan y Cyngor.

Ers dechrau’r mis mae deg teulu o Heol Gyfyng, Ystalyfera wedi cael hysbysiad i symud am nad yw eu cartrefi’n ddiogel. Ac mae 150 o dai eraill dan fygythiad hefyd gydag arolygon i weld a yw’r broblem o fethu â sefydlogi’r tir yn effeithio ar fwy o dai yn yr ardal.

Ond mae rhai teuluoedd sydd wedi’u gorfodi o’u cartrefi wedi cael peiriannydd annibynnol i gynnal profion ar yr ardal, ac yn ôl y grŵp, mae ei ganfyddiadau yn “gwrthbrofi” be’ mae’r Cyngor yn dweud.

“Mae e wedi ffeindio bod landslips yn mynd i ddigwydd ond does dim bygythiad i’r tai ar hyn o bryd, mae’r Cyngor wedi cael ni mas o’r tai heb gael y canlyniadau eto a heb dystiolaeth,” meddai Morganne Bendle, sy’n un o’r rhai sydd wedi gorfod gadael.

“Be’ mae’r Cyngor wedi dweud yw bod angen cael ni mas fel bod nhw’n gallu cael pobol mewn er mwyn trwsio popeth ond does dim byd yn digwydd.

“Dydyn nhw ddim yn gwybod unrhyw beth ac maen nhw’n aros tan fod canlyniadau yn dod nôl atyn nhw cyn bod nhw’n gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.

“Maen nhw i fod dod erbyn y cyfarfod yma dydd Iau ond maen nhw methu gwarantu hynny.”

Galw am “y gwir”

Dywed bod y brotest yn cael ei threfnu er mwyn “herio’r Cyngor i ddweud y gwir.”

“Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw atebion, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw eglurder ar unrhyw beth. Chi’n gofyn cwestiwn ac maen nhw methu ateb.”

Mae Morganne a’i theulu, ei mam, chwaer a dau frawd, sydd wedi bod yn aros mewn gwely a brecwast neu gyda pherthnasau, yn dal i aros am lety gan y Cyngor ac yn disgwyl symud mewn i dŷ fory [dydd Gwener].

“Roedd y Cyngor wedi dweud wrth y cyfryngau bod nhw’n addo tŷ i ni wythnos ddiwethaf ond roedden nhw wedi dweud wrthon ni yn bersonol mai diwedd yr wythnos yma fydd e,” meddai.

“Ni sydd wedi chaso nhw lan ac maen nhw nawr yn dweud bod ni’n gallu symud mewn fory.”

“Gwrando ar bryderon”

Mewn datganiad yn hysbysu’r cyfarfod, dywed arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, “Rydym yn gwrando ar bryderon preswylwyr, a dyma’r rheswm rydym yn cynnal y cyfarfod cyhoeddus hwn.

“Rydym am roi adroddiad mor llawn â phosib i breswylwyr am y sefyllfa hyd yn hyn, ac mae’n bwysig bod yr holl breswylwyr yn yr ardal yn gwybod am y cyfarfod.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r Cyngor am sylw pellach.