Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddamwain angheuol ar briffordd yr A4069 rhwng Llangadog a Llanymddyfri ddydd Sadwrn diwethaf (Awst 26).

Fe fu gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd – Fiat 500 coch a beic modur Aprilia lliw glas – ger Bythynnog Penroc.

Fe gafodd Colin Herridge o Gaerfyrddin, reidiwr y beic modur, ei anafu’n ddifrifol. Er iddo gael ei gludo o safle’r ddamwain i’r ysbyty, bu farw ddydd Llun, Awst 28.  

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dal i chwilio am dystion i’r ddamwain.