Rhiannon Haines (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn bryderus ynghylch diogelwch merch 17 oed sydd ar goll o Aberystwyth.

Does yna neb wedi gweld Rhiannon Haines ers canol dydd, ddydd Mawrth yr wythnos hon (Awst 29).

Mae’r heddlu yn amau ei bod wedi teithio i Gaer.

Mae Rhiannon Haines wedi cael ei disgrifio fel merch 5’4″ o daldra, gyda gwallt melyn sy’n frown yn y bon. Y tro diwethaf y cafodd ei gweld, roedd hi’n gwisgo crys chwys lliw llwyd, legins llwyd, a threnyrs gwyn.