Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyfleu pryder am safon darpariaeth un o raglenni Llywodraeth Cymru.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi £124.5m yn ‘Rhaglen Cefnogi Pobl’ yn 2016-17, er mwyn cynorthwyo pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosib.

Mae’r Rhaglen yn darparu arian grant i awdurdodau lleol er mwyn darparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai, i amrywiaeth o bobl gan gynnwys unigolion anabl a ffoaduriaid.

Yn ei adroddiad mae’r Archwilydd yn nodi er gwaethaf gwelliannau i’r rhaglen, mae “cynnydd araf” wedi bod mewn meysydd allweddol.

Mae’r adroddiad yn rhestru wyth argymhelliad ar sawl mater gan gynnwys goblygiadau diwygiadau i’r rhaglen a’i fformiwla ariannu. 

Angen gwneud mwy

“Mae Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu cymorth pwysig i’r rhai sydd ei angen fwyaf,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.

“Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru, drwy weithio gyda’i phartneriaid, wneud mwy i arddangos effaith gyffredinol a gwerth am arian y Rhaglen ac i sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni’n gyson ac yn unol â’i disgwyliadau. 

“Mae gwersi pwysig i’w dysgu o’r ffordd y mae’r Rhaglen wedi datblygu, o ystyried y pwyslais mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar weithio rhanbarthol mewn llywodraeth leol a’r ffyrdd o weithio a ragwelir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.”

Llywodraeth Cymru

“Rydym yn croesawu barn Swyddfa Archwilio Cymru bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ac wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Byddwn yn astudio’r adroddiad a’i argymhellion yn fanwl ac yn ymateb maes o law,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.