Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi galw ar ffermwyr i fod yn wyliadwrus ac “yn effro” i fygythiad ffliw adar i’w heidiau dros y gaeaf.

Yn ystod y gaeaf y llynedd, fe gafwyd achosion o straen H5N8 o ffliw’r adar, mewn 13 haid ledled y Deyrnas Unedig.

Er bod gostyngiad wedi bod yn ystod nifer yr achosion newydd dros yr haf, mae achosion newydd o hyd ymhlith dofednod yn Ewrop – yn yr Eidal yn bennaf. 

Hefyd, bu achos diweddar o’r haint yn Norfolk, ac mae arbenigwyr yn nodi ei bod yn debygol y bydd y clefyd yn taro dros y gaeaf.

Safonau uchaf

“Er bod ceidwaid heidiau mawr a bach o ddofednod ac adar caeth yn fawr eu croeso i’r diffyg achosion newydd, rwyf am atgoffa pawb ei bod yn hanfodol parhau i fod yn effro i arwyddion y clefyd a chadw at y safonau bioddiogelwch uchaf,” meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop.

“Os ydych chi’n poeni am iechyd eich adar, holwch eich milfeddyg ac os ydych chi’n credu bod ffliw’r adar ar eich adar, rhowch wybod ar unwaith i swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.”

Y cngor

Ymysg yr argymhellion i berchnogion dofednod:

  • Cadwch y mannau lle rydych yn cadw adar yn lân a thwt;
  • Glanhewch eich esgidiau cyn ac ar ôl bod yn eu gweld;
  • Rhowch fwyd a diod yr adar mewn mannau sydd wedi’u hamgáu’n llwyr;
  • Rhowch ffens o gwmpas y mannau awyr agored y mae’ch adar yn cael mynd iddyn nhw.