Pafiliwn Patti (Llun: Wikipedia)
Mae cyn-ddarlithydd yn gobeithio dod â digwyddiadau byw yn ôl i Bafiliwn Patti, un o’r adeiladau mwyaf hanesyddol yn Abertawe.

Ers 2010, mae’r neuadd oedd yn arfer cynnal cyngherddau ac sy’n dwyn enw cantores opera enwog, yn gartref i fwyty Indiaidd o’r enw Patti Raj.

Mae’r adeilad wedi’i restru (Gradd II), ac roedd yn wag am rai blynyddoedd er i £1.7m gael ei wario i’w adnewyddu.

Yr hanes

Pan gafodd ei godi yn y 1880au, roedd yr adeilad ar dir Adelina Patti yng Nghraig-y-nos yng Nghwm Tawe, ond fe gafodd yr adeilad cyfan ei symud i’w safle ar lan y môr yn 1920 ar ôl i’r gantores gyflwyno’r adeilad i drigolion dinas Abertawe.

Yn 1994, fe geisiodd y rhaglen deledu Challenge Anneka adnewyddu’r adeilad, ond roedd angen cryn dipyn mwy o waith arno yn ystod y blynyddoedd wedi hynny.

Cafodd yr adeilad ei ddifrodi’n sylweddol mewn tân bwriadol yn 2006, ac fe gafodd ei adnewyddu gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir.

Bywyd newydd?

Wrth gynnal y digwyddiad byw cyntaf ar Fedi 8, pan fydd Owen Money a’i fand yn perfformio ynghyd â’r band lleol, Tremblin’ Knees, mae Dave Hendley yn gobeithio ail-gynnau diddordeb trigolion Abertawe yn yr hen adeilad.

Meddai wrth golwg360: “Yn y gorffennol, roedd digwyddiad yno bron bob wythnos, gyda llwyfan parhaol yn rhan o’r adeilad. Byddai’n cael ei ddefnyddio’n helaeth fel lleoliad ar gyfer gigs roc.

“Ond fe ddes i i Abertawe yn y cyfnod ar ôl dyddiau da’r 1970au, ac roedd pethau’n wahanol iawn erbyn hynny.

“Es i yno i weld Mike Peters and the Alarm yn y 1990au, a doedd dim byd wedyn tan ryw ddwy flynedd yn ôl,” meddai Dave Hendley wedyn.

“Doedd yr acwstig ddim yn wych bryd hynny, a wnaeth y peth ddim gweithio’n dda iawn. Ond pe bai’r digwyddiad hwn yn llwyddo, mae cynlluniau eraill gyda fi ar y gweill.”

Cyfleoedd newydd

“Dim ond fel lleoliad ar gyfer priodasau Bangladeshi y mae’r Patti Raj wedi defnyddio’r adeilad ac roedden nhw’n awyddus i ddod o hyd i gyfleoedd newydd,” meddai Dave Hendley.

“Fe wnes i awgrymu ei ddefnyddio fel lleoliad roc unwaith eto a nos Wener nesaf, fe fyddwn ni’n cynnal ein digwyddiad cyntaf yno.”

Bwriad Dave Hendley yw cynnal digwyddiadau bob chwech i wyth wythnos a chreu “lleoliad ar gyfer cerddoriaeth dda”.

“Dw i eisiau iddo fod yn fwy hamddenol na’r 70au, ac yn lleoliad lle gall pobol ddod i gael hwyl a bwyd da, a’u bod nhw eisiau dod nôl dro ar ôl tro.”

Profiad newydd

Er bod Dave Hendley yn hen gyfarwydd â chwarae mewn bandiau dros y blynyddoedd, mae trefnu digwyddiadau’n brofiad hollol newydd iddo yn ei ymddeoliad o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn y ddinas.

“Dw i’n newydd-ddyfodiad i hyn i gyd, a dw i’n dysgu tipyn. Un peth dw i wedi ei ddysgu yw nad yw unrhyw beth yn sicr o lwyddo.

“Ro’n i’n mwynhau nosweithiau yn yr Uplands Tavern flynyddoedd yn ôl ond fe aeth gwaith yn y ffordd.

“Nawr bod gen i fwy o ryddid, fe fydd rhaid neilltuo treulio jyst digon o amser i sicrhau llwyddiant y digwyddiadau hyn.”