Beti-Wyn James (Llun: golwg360)
Mae gweinidog un o gapeli Caerfyrddin yn dweud ei bod hi’n “fraint” ganddi allu croesawu ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol i fyw yn y Tŷ Capel.

Mae teulu o ffoaduriaid wedi bod yn byw yn nhŷ capel y Priordy ers dechrau’r haf – penderfyniad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Gaerfyrddin a ‘r capel oedd eu croesawu yno.

Roedd aeloda’r capel hefyd yn unfrydol o blaid y peth, meddai’r gweinidog, y Parchedig Beti-Wyn James.

Mae teuluoedd eraill o ffoaduriaid eisoes wedi ymgartrefu yn y dref a gyda’r tŷ capel yn wag roedd y penderfyniad i’w croesawu yn hollol naturiol, meddai.

“Mae’n beth da i ni fel eglwys, mae’n ffantastig,” meddai Beti-Wyn James wrth golwg360. “Rydym ni’n teimlo ei bod hi’n fraint… nid ffafr yw hyn o gwbwl.

“Mae’n fraint cael gwneud, ac mae’n rhan o’n gwaith ni fel eglwys. Mae’n act ymarferol o gefnogi, ac r’yn ni’n eithriadol o falch ein bod ni wedi gallu gwneud.”

Neges

Mae Beti-Wyn James yn nodi nad eu capel nhw yw’r unig un i groesawu ffoaduriaid, ond mae hi’n annog capeli eraill i gynnig eu tai capel a’u mansau gwag iddyn nhw.

“Un neges sydd werth cael allan yw – mae yna lot o dai capel a lot o fansau ar draws y wlad,” meddai.

“Bydde fe’n braf cael y neges mas bod modd, os ydyn nhw’n chwilio am denantiaid, i annog pobol i fynd ar hyd y llwybrau yma.”