Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn datblygu paciau cefn bychain ar gyfer gwenyn.

Bydd y paciau ysgafn yn galluogi dronau bach i ddilyn y gwenyn wrth iddyn nhw hedfan o blanhigyn i blanhigyn, ac mi fyddan nhw’n defnyddio ynni trydanol y gwenyn i’w pweru.

Nod y ddyfais yw helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae’r gwenyn yn casglu neithdar, a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.

Cam nesaf y prosiect yw profi’r paciau cefn mewn twnnel, ac mae’r gwyddonwyr yn gobeithio gwneud hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Ynni electronig

“Mae cyfyngiadau o ran y defnydd y gellir ei wneud o declynnau presennol i fonitro gwenyn oherwydd eu pwysau, y pellter y gallant weithredu drosto a pha mor hir y mae eu ffynhonnell bŵer yn parhau,” meddai Dr Cristiano Palego, o Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol.

 “Rydym wedi profi ein gallu i hel a defnyddio ynni electronig y gwenyn er mwyn cael gwared â’r angen i ddefnyddio batri a bydd ein teclyn tracio hunangynhaliol yn pwyso ond tua thraean pwysau corff y gwenyn a llai na diferyn o law.

“Mae hyn yn datrys problemau pwysau a bywyd y batri.”