Llys yr Ynadon Llundain
Mae dynes o Gaerdydd wedi ymddangos gerbron Llys yr Ynadon Llundain heddiw wedi’i chyhuddo o rannu deunydd brawychol ar y we.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â negeseuon gafodd eu hanfon ym mis Ionawr 2014 lle mae honiadau iddi eu hanfon at 12 o bobol gan ddefnyddio’r ap negeseuon, WhatsApp.

Yn ôl yr erlynwyr, roedd y fideos yn cynnwys areithiau oedd yn annog brawychiaeth.

Cafodd Sadia Malik, 36 oed, ei harestio ym mis Gorffennaf fel rhan o ymchwiliad ar y cyd rhwng Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Mae ei gŵr, Sajid Idris, 34 oed hefyd wedi’i gyhuddo o bedwar achos o rannu deunydd brawychol yn rhan o’r un ymchwiliad.

Ymddangosodd Sadia Malik yn y llys i gadarnhau ei henw, dyddiad geni a’i chyfeiriad cyn pledio’n ddieuog a’i rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Fe fydd yn ymddangos nesaf yn Llys yr Old Bailey am wrandawiad rhagarweiniol ar Fedi 21.