Katherine Jenkins
Y gantores o Gastell-nedd, Katherine Jenkins, sydd wedi dod i’r brig mewn siart arbennig gan yr orsaf radio Classic FM yn olrhain cerddoriaeth glasurol gorau’r chwarter canrif ddiwethaf.

Hi ddaeth i’r brig fel yr artist clasurol sydd wedi gwerthu gorau, a hynny wedi iddi werthu mwy na 2.7 miliwn o albymau ar siart Classic FM.

Daeth dau o’i halbymau, Living a Dream a Second Nature ymysg deg uchaf rhestr albwm clasurol gorau’r orsaf.

Er hyn, cerddoriaeth y ffilm Titanic wedi’i gyfansoddi gan James Horner enillodd albwm clasurol gorau’r 25 mlynedd diwethaf.

Cafodd y siart ei gynnal i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r orsaf radio glasurol, ac fe gafodd y rhestr ei chyhoeddi dros benwythnos gŵyl y banc.

 

Y Cymry’n cipio’r siart

Roedd saith o albymau’r ugain uchaf yn rhai gan gantorion a chyfansoddwyr o Gymru, ac roedd chwech o’r ugain uchaf o artistiaid wnaeth werthu orau hefyd yn dod o Gymru.

Mae’r rhain yn cynnwys Charlotte Church, Côr Meibion y Fron, Bryn Terfel, Aled Jones a Karl Jenkins.

“Mi oeddwn i’n 12 oed pan gafodd Classic FM ei sefydlu felly dw i’n teimlo ein bod wedi tyfu i fyny gyda’n gilydd,” meddai Katherine Jenkins.

“Gyda chymaint o ffrindiau a chydweithwyr ar y rhestr, mae cael fy enwi fel yr artist rhif un ar Classic FM am 25 mlynedd yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth,” meddai wedyn.