Llun: Llywodraeth Cymru
Mae cwmni cymharu prisiau yn bwriadu buddsoddi £2 filiwn i ddatblygu platform newydd ar-lein gan arwain at 70 o swyddi newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Ers ei sefydlu yn 2009 mae’r cwmni sydd â’i bencadlys ym Mae Caerdydd wedi bod gyda’r cyntaf i gymharu prisiau yswiriant iechyd ar-lein.

Dair blynedd yn ôl, fe gefnogodd Llywodraeth Cymru’r cwmni drwy ddarparu £600,000 o gyllid busnes i greu 74 o swyddi ym Mae Caerdydd.

Mae disgwyl y bydd eu cefnogaeth bellach yn creu 70 o swyddi newydd gan arwain at gyfanswm o 190 o bobol yn gweithio yno.

‘Partner hirdymor’

 

Mae ActiveQuote yn rhan o glwstwr o gwmnïau technolegol (FinTech) sy’n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain.

Eglurodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, fod y cwmni yn “bartner hirdymor” i dri o gwmnïau FinTech amlycaf y Deyrnas Unedig sydd â’u pencadlys yng Nghymru sef – GoCompare, Confused.com a MoneySupermarket.

“Mae gan Gymru enw da sy’n datblygu erbyn hyn fel lleoliad perffaith ar gyfer y sector FinTech, ac ar lefel Ewropeaidd, mae Cymru yn amlwg iawn ac yn cael ei chydnabod fel enghraifft o dechnoleg safle ar y we i agregwyr ariannol,” meddai Ken Skates.

Ychwanegodd Rob Saunders, Rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni, fod hwn yn “gyfnod cyffrous iawn ym maes FinTech, ac mae ActiveQuote yn anelu at fod ar y blaen gyda’r datblygiadau hyn.”