Llys ynadon Caerdydd
Mae dynes o Gaerdydd wedi’i chyhuddo o dosbarthu dogfennau yn ymwneud â brawychiaeth.
Fe gafodd Sadia Malik, 36, ei harestio ym mis Gorffennaf ar amheuaeth o rannu cyhoeddiadau brawychol.
Fe gafodd ei dwyn i’r ddalfa dan y Ddeddf Frawychiaeth, a hynny gan swyddogion o Uned Gwrth-Frawychiaeth y Gogledd Ddwyrain ac Uned Gwrth Derfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru.
Mae disgwyl i Sadia Malik ymddangos gerbron ynadon dydd Mawrth (Awst 29).
Mae Sajid Idris, 34, o Gaerdydd, eisoes wedi’i gyhuddo o bedair trosedd, fel rhan o’r un ymchwiliad.