Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes gael ei llusgo i mewn i gar ym Mhontypridd.

Roedd y ddynes yn cerdded ar hyd Heol Sardis i gyfeiriad Heol y Rhondda ac i garej Asda am oddeutu 1.40 y bore ma.

Stopiodd car BMW gwyn ger Ysgol Gynradd Evan James, a daeth dau ddyn o dras Asiaidd allan a’i llusgo i mewn i’r cerbyd.

Llwyddodd hi i ddianc gyda chymorth dau ddyn oedd yn cerdded heibio, ac fe wnaeth y ddau ddyn oedd wedi ceisio ei chipio yrru i ffwrdd.

Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.