Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i wrthdrawiad rhwng car yr heddlu a beic modur yn Abertawe.

Mae’r gwasanaethau brys yn y ddinas wedi cael eu beirniadu am yr oedi cyn ymateb i’r digwyddiad ar Ffordd Solva y ddinas.

Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i’r ysbyty gan ffrindiau ar ôl i’r ambiwlans gymryd 45 munud i gyrraedd lleoliad y gwrthdrawiad.

Cafodd e anafiadau difrifol, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Ymateb y gwasanaethau brys

Ymhlith y cerbydau a gafodd eu hanfon i ymateb i’r digwyddiad roedd fan cŵn yr heddlu a fan terfysg.

Mae cwestiynau wedi codi am yr amser a gymerodd i gyrraedd y lleoliad, ac a ddylai’r heddlu fod wedi caniatáu i’r claf fynd i’r ysbyty gyda’i ffrindiau yn hytrach nag aros am ambiwlans.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De eu bod nhw wedi cyfeirio’r achos o’u gwirfodd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod nhw’n “fodlon iawn” trafod y sefyllfa â’r claf.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.