Mae disgwyl i filoedd o bobol heidio i Gaerdydd heddiw ar gyfer Pride Cymru.
Mae’r digwyddiad blynyddol – sy’n dathlu’r gymuned hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsryweddol – wedi cael cartref newydd eleni yn y Ganolfan Ddinesig.
Roedd amheuon a fyddai’r digwyddiad yn gallu cael ei gynnal eleni am fod Cooper’s Field – lleoliad arferol y dathliad – wedi cael ei ddefnyddio fel parth cefnogwyr ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth bêl-droed fwyaf Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr.
Fe fydd dros 100 o sefydliadau’n gorymdeithio o Heol y Frenhines am 11 o’r gloch, ac yn symud ar hyd y brifddinas.
Ymgyrch
Yn dilyn amheuon am ddyfodol y digwyddiad, ymunodd nifer o enwogion, gan gynnwys Syr Ian McKellen, ag ymgyrch i’w achub.
Mae ymgyrchwyr wedi llwyddo i godi £360,000 er mwyn ei gynnal.
Perfformwyr
Ymhlith y perfformwyr fydd yn cymryd rhan mae Into the Ark a Charlotte Church.
Bydd Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar ffydd a rhywioldeb.
Ond cafodd Goldie Lookin’ Chain eu tynnu o’r rhestr ar ôl i’r trefnwyr ddweud mai “camgymeriad” oedd eu gwahodd, yn dilyn amheuon am gynnwys nifer o’u caneuon.