Neil McEvoy
Mae Plaid Cymru yn “sownd yn swigen Bae Caerdydd” ac yn amherthnasol i bobol ar lawr gwlad, meddai un Aelod Cynulliad.

Ar wefan Nation.Cymru, mar Neil McEvoy wedi ei rwystredigaeth ynglyn â chyfeiriad Plaid Cymru dan arweinyddiaeth Leanne Wood.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, mae angen i’r blaid bellhau ei hun o’r Blaid Lafur yng Nghymru, a pheidio â tharo bargeinion â’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae Plaid Cymru yn rhan o gompact â Llafur Cymru, Symud Cymru Ymlaen, ar ôl i Lafur fethu â sicrhau digon o seddi i ffurfio Llywodraeth fwyafrifol.

“Mae fy mhlaid wleidyddol yn amherthnasol i lawer o bobol ifanc Cymru yn 2017, ag yr oedd i fi yn 1987; mae angen i hyn newid,” meddai Neil McEvoy.

“Mae angen i Blaid [Cymru] fod yn hyderus ac yn falch o’r hyn rydym ni, neu’r hyn y dylem fod.

“Dylai Plaid fod yn fudiad cymdeithasol, nid dim ond plaid wleidyddol wedi’i hynysu o fewn bybl y Bae. Dylem sefyll yn uchel dros gael Cymru sofran a hunanlywodraeth ar bob cyfle posib.”

Angen i Blaid Cymru fod yn ‘fwy o wrthblaid’

Mae’n dweud hefyd y dylai Plaid Cymru fod yn fwy o wrthblaid yn y Senedd, ac nid ceisio “dylanwadu Llafur i roi syniadau Maniffesto Plaid ar waith, fel rydym yn gwneud ar hyn o bryd”.

“Dw i am weld Grŵp Plaid yn y Cynulliad yn cefnogi’r hyn sy’n iawn, ond yn gwrthwynebu’r hyn sy’n anghyfiawn gyda phob owns o’n hegni,” meddai.

“Gadewch i ni beidio clywed cwestiynau fel “A fydd y Prif Weinidog yn cytuno…” gan Plaid [cyfeiriad at Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ar lawr y Siambr] a rhoi’r system paru clyd [o’r compact] yn y bin…

“Gadewch i ni fynd â gwleidyddiaeth Cymru i bobol Cymru y tu hwnt i Fae Caerdydd.”

Dros yr wythnosau diwethaf, mae cwestiynau wedi codi dros ddyfodol Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Blaid Cymru i sylwadau Neil McEvoy.