Golygydd Gyfarwyddwr cwmni Golwg Cyf sydd wedi derbyn Gwobr Glyndŵr eleni, a hynny am ei gyfraniad i’r byd llenyddol yng Nghymru.

Mewn seremoni yn Y Tabernacl, Machynlleth, brynhawn heddiw (dydd Gwener, Awst 25) fe gafodd ei arwisgo â medal arian i nodi 40 mlynedd o newyddiadura, yn ogystal â’i waith yn fardd a llenor.

Ers 1978, fe fu’n gweithio ar bapurau newydd, ar deledu a radio, yn sylwebu ar wleidyddiaeth yn Llundain a Chaerdydd.

Mae hefyd ynglyn â sefydlu nifer o gyhoeddiadau Cymraeg – Sulyn, Golwg, Wcw a’i Ffrindiau, Lingo Newydd a golwg360.

Mae Dylan Iorwerth hefyd yn un o’r ychydig enillwyr cenedlaethol sydd wedi cipio’r tair brif wobr – y Gadair (2012), y Goron (2000) a’r Fedal Ryddiaith (2005).