Mae ffermwyr Cymru yn cael eu hannog i anfon ceisiadau ar gyfer grant i wneud eu busnes yn fwy effeithlon ac ecogyfeillgar.

Trwy’r Grant Busnes i Ffermwyr gan Lywodraeth Cymru, mae modd i ffermwyr dderbyn cyfraniad o 40% tuag at fuddsoddiadau ar gyfer offer a pheiriannau.

Agorodd ail gyfnod ymgeisio ar gyfer y grant ar Awst 2 ac mi fydd yn dod i ben ar Fedi 29. Gwnaeth y cyfnod ymgeisio cyntaf ddenu dros 500 o ymgeiswyr.

I fod yn gymwys am un grant o rhwng £3,000 a £12,000, mae’n rhaid i ffermwyr fynd i un o sioeau Cyswllt Ffermio – ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’- sydd yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Buddsoddi mewn busnesau

“Bydd y cyllid sydd ar gael drwy’r Grant yn galluogi ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau fel y gallant weithredu’n fwy effeithiol, yn fwy cystadleuol ac mewn dull sy’n ecogyfeillgar,” Meddai’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Lesley Griffiths.

“Bydd hyn yn ei dro yn golygu y gallant wrthsefyll anawsterau yn well wrth inni baratoi am ddyfodol ansicr y tu allan i’r UE.

“Os ydynt yn bwriadu gwneud cais am y Grant Busnes i Ffermwyr neu beidio, hoffwn annog ffermwyr ledled Cymru i fynd i sioe deithiol ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ a dod i wybod mwy am y cyngor a’r cymorth amrywiol sydd ar gael iddynt.”