Jeremy Miles (Llun fideo Golwg360)
Fe fydd aelod cynulliad yn galw ar bawb i gefnogi pobol LGBT yn eu hymdrech am chwarae teg a hawliau.

AC Castell Nedd, Jeremy Miles, fydd un o’r prif siaradwyr yn rali Pride Cymru yng Nghaerdydd fory.

Fe fydd yn canmol y cynnydd y mae pobol hoyw, lesbaidd, deurywiol a thraws wedi ei wneud yng Nghymru ond yn pwysleisio bod rhagor i’w wneud

“Dod ymhell”.

“Ar ein strydoedd, mae pobol LGBT yn dal i wynebu cam-drin a throseddau casineb ac yn ein hysgolion mae gormod o blant yn cael eu bwlio am fod yn hoyw,” meddai Jeremy Miles, sydd wedi ymgyrchu’n gyson yn y maes ers ei ethol y llynedd.

Ond mewn gwledydd eraill roedd pobol yn gallu marw oherwydd eu rhywioldeb, meddai, ac fe alwodd ar bobol o bob math i ymuno yn yr ymgyrchu.

“Er bod tipyn o ffordd i fynd, r’yn ni wedi dod ymhell,” meddai. “Ac mae’r cynnydd y mae pobol LGBT yn ei wneud bod dydd yn cael ei wneud gyda’n cynghreiriaid a’n ffrindiau.

“Does dim rhaid ichi fod yn LGBT i fod yn gynghreiriwr da ac yn ffrind. Byddwch yn rhywun sy’n gwrando, rhywun sy’n siarad, sy’n lleisio barn.

“Un o’r pethau gorau y gall neb ohonon ni ei wneud yw helpu rhywun arall i fod yn nhw eu hunain.”