Gorsaf Caerdydd (Llun Golwg360)
A hithau’n benwythnos gŵyl y banc, mae disgwyl bydd problemau trafnidiaeth i nifer o fodurwyr a theithwyr ar drenau dros y penwythnos.

Fe fydd gwaith cynnal a chadw ar y rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn golygu bydd yn rhaid i deithwyr ddal bysys rhwng y ddwy orsaf tan ddydd Mawrth.

Yn ôl y cwmnïau rheilffordd, dyma’r adeg gorau i wneud y gwaith er mwyn cael cyn lleied â phosib o effaith ar fwyafrif teithwyr.

Hefyd mae disgwyl bydd oedi ar y lein rhwng gogledd Cymru a Llundain gan fod gorsaf Euston ar gau dros y penwythnos.

Ffyrdd – problemau’n dechrau tua hanner dydd

Yn ôl Cymdeithas y Ceir Modur (AA) fe fydd y problemau trafnidiaeth yn dechrau tuag amser cinio heddiw wrth i bobol adael gwaith yn gynnar i gymryd mantais o’r gwyliau.

Mae arolwg gan y gymdeithas yn awgrymu y bydd 43% o fodurwyr y Deyrnas Unedig yn teithio ar y ffyrdd ar ryw adeg rhwng ddydd Gwener a ddydd Llun, naill ai ar wyliau neu dripiau diwrnod.

Mae disgwyl trafferthion yn y mannau arferol – ar y ffordd i mewn i Gymru ar yr A55 yn y Gogledd a’r M4 yn y De.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mi fydd y tywydd yng Nghymru a Lloegr dros y penwythnos yn sych ar y cyfan gydag ysbeidiau heulog.