Joanne Mjadzelics, cyn-bartner Ian Watkins (Llun: PA)
Mae elusen blant a Chomisiynydd Plant Cymru wedi condemnio Heddlu De Cymru am wrthod credu dynes oedd wedi eu rhybuddio dro ar ôl tro fod y canwr roc, Ian Watkins, yn cael rhyw gyda phlant.

Mae hi’n hanfodol, medden nhw, fod tystion yn gallu cynnig gwybodaeth i’r heddlu gan wybod y byddan nhw’n cael eu trin o ddifri’.

Ac mae Heddlu De Cymru wedi ymddiheuro am eu methiannau a’u bod yn derbyn gwendidau oedd wedi eu dangos yn adroddiad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu i’r achos.

“Damniol”

“Dylai casgliadau damniol yr adroddiad fod yn agoriad llygad i bawb a fu’n rhan o hyn,” meddai llefarydd ar ran yr elusen blant, NSPCC Cymru.

“Mae’n glir fod camgymeriadau difrifol iawn wedi bod wrth ddelio â sawl honiad cynnar a dylai argymhellion yr adroddiad hwn gael eu dilyn yn gyflym.

“Mae’n gam anodd iawn i hysbysu’r heddlu am gam-drin plentyn, felly pan fydd pobol yn siarad, mae’n hanfodol y gallan nhw fod yn ffyddiog fod yr hyn y maen nhw’n ei ddweud yn cael ei gymryd o ddifrif a bod gweithredu yn digwydd yn syth.

“Defnyddiodd Watkins ei statws a’i enwogrwydd i gynnal ymgyrch o gam-drin ofnadwy yn erbyn plant. Gall effeithiau’r troseddau hynny ar ei ddioddefwyr bara oes ac mae’n hanfodol eu bod yn cael pob cefnogaeth.”

“Ffordd anghywir o feddwl”

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, mae’r achos yn debyg i rai eraill lle mae heddluoedd wedi gwrthod â dilyn tystiolaeth oherwydd eu barn am y rhai sy’n cwyno.

Yn yr achos yma, doedden nhw ddim wedi credu cyn-bartner Ian Watkins, Joanne Mjadzelics; mewn achosion eraill dyw heddlu ddim wedi credu merched ifanc oherwydd eu bod yn barnu moesau’r merched hynny.

“Unwaith y bydd y ffordd anghywir yna o feddwl yn treiddio i mewn i adroddiadau, mae’n gallu bod yn anodd iawn ei newid,” meddai ar Radio Wales.

Roedd hi’n bwysig bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gan swyddogion ar lefel digon uchel,  meddai.