Ian Watkins (Llun Heddlu De Cymru)
Mae ymchwiliad annibynnol yn dweud bod Heddlu De Cymru wedi colli cyfleoedd i ddal y canwr roc o bedoffeil, Ian Watkins, o leia’ bedair blynedd cyn iddo gael ei arestio.

Yn ôl Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu [IPCC], roedden nhw wedi methu â gweithredu ar wyth adroddiad a thri chofnod o wybodaeth gan chwe pherson oedd wedi codi pryderon am ganwr band y Lostprophets rhwng 2008 a 2012.

Yn 2009,. fe wnaethon nhw hefyd fethu ag archwilio ffôn symudol Joanne Mjadzelics, cyn-bartner y canwr, a fyddai wedi dangos neges yn datgelu bod y ddau am gael rhyw gyda phlant.

Yn ôl yr ymchwiliad, doedd gan fethiant yr heddlu ddim i’w wneud ag enwogrwydd Ian Watkins ond yn hytrach am fod swyddogion ddim yn credu ei gyn-bartner.

Daeth troseddau Ian Watkins i’r amlwg ar ôl i’r heddlu archwilio ei gyfrifiaduron ym mis Medi yn dilyn gwarant i chwilio am gyffuriau ym mis Medi 2012.

Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd y pedoffeil ddedfryd o 29 mlynedd yn y carchar.

“Pryderon difrifol”

“Fe wnaeth yr ymchwiliad godi’r pryderon mwyaf annifyr am y ffordd y cafodd adroddiadau am gam-drin gan Ian Watkins eu trin rhwng 2008 a 2012,” meddai’r Comisiynydd IPCC dros Gymru, Jan Williams.

Mae’n cyhuddo Heddlu De Cymru o ragfarn ac yn dweud bod y digwyddiadau’n achosi “pryder difrifol”.

Mae’n dweud ei fod hefyd wedi darganfod gwendidau ym mhrosesau cyffredinol Heddlu De Cymru wrth ddelio â honiadau o gam-drin plant, gyda chyfres o argymhellion yn cael eu gwneud.

Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn ymchwiliad yr IPCC ac wedi dechrau mynd i’r afael â’r gwendidau.

Ond does dim un plismon wedi’i gosbi o ganlyniad i’r achos – fe fu’n rhaid i dditectif sarjiant wynebu achos ond heb gamre pellach yn ei erbyn ac fe benderfynodd y llu nad oedd eisiau gweithredu yn erbyn dau dditectif gwnstabl.