Laua Jayne Stuart
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo dyn ifanc o lofruddio Laura Jayne Stuart yn nhref Dinbych bythefnos yn ol.

Fe ddaeth cadarnhad bod Jason Cooper, 27, wedi’i gyhuddo o ladd y wraig 33 oed ar Awst 12, ac y bydd yn ymddangos gerbron llys ynadon Caernarfon yn ddiweddarach heddiw.

Er y datblygiad hwn, mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i chwilio am dystion, ac yn chwilio am wybodaeth am y gyllell a gafodd ei defnyddio yn y drosedd.