Ffoaduriaid o Syria (Llun: Achub y Plant)
Mae dros hanner cynghorau sir Cymru wedi methu â rhoi cartref i’r un ffoadur o Syria rhwng Ebrill a Mehefin eleni, yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Gartref.

96 o bobol yn ffoi o ryfel cartref Syria a gafodd lloches yng Nghymru rhwng y cyfnod hwnnw drwy’r cynllun Adleoli Pobol sy’n Agored i Niwed (VPRS) Llywodraeth Prydain.

Mae’r ffigwr wedi cynyddu rhywfaint ers i 75 o bobol gael eu hadleoli yma ar ddechrau’r flwyddyn, sy’n golygu mai 568 o ffoaduriaid o Syria sydd wedi cyrraedd y wlad drwy’r cynllun hyd yn hyn.

Ond dydi’r ffigurau ddim yn cynnwys nifer y ffoaduriaid sydd wedi cael lle yng Nghymru drwy’r cynllun nawdd yn y gymuned, lle mai’r pwyslais ar gymunedau yn arwain ar y gwaith o adleoli – nid yr awdurdodau lleol.

Mae’r ffigurau yn dangos nad oedd 13 awdurdod lleol wedi derbyn ffoaduriaid yn ystod y ddeufis rhwng mis Ebrill a mis Mehefin – cynnydd o 11 ers tri mis cyntaf 2017.

Y rhai doedd heb dderbyn yr un ffoadur…

Blaenau Gwent
Caerdydd
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Merthyr Tudful
Castell-nedd Port Talbot
Rhondda Cynon Taf
Bro Morgannwg
Torfaen

O gymharu â rhannau eraill gwledydd Prydain

“Rydym yn croesawu’r ffaith fod y gyfradd o ffoaduriaid o Syria sydd yn cael eu cynnal yng Nghymru wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf, ond mae llawer mwy y gall, ag y dylid ei wneud,” meddai Ben Lloyd o elusen Oxfam Cymru.

“Mae Gogledd Iwerddon wedi croesawu 117 yn yr un amser, tra bod yr Alban wedi setlo 146, sydd yn dangos yn glir fod Cymru yn disgyn yn ôl.

“Rydym wedi profi yn y gorffennol ein bod ni’n medru ymdrechu i gymryd ein cyfran deg o ffoaduriaid ymhob ardal o Gymru, ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos patrwm siomedig.

“Os ydi Cymru yn ymroddedig tuag at fod yn genedl o noddfa, mae’n hanfodol fod pob Awdurdod Lleol yn ymdrechu i gymryd ein cyfran deg o ffoaduriaid sydd yn ffoi o’r rhyfel cartref.”