Mae’r actor Rhys Ifans wedi llwytho fideo ar y we yn datgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch gymunedol i achub tafarn yn Sir Benfro.

Mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod ar werth am bris o £295,000 ers mis Ionawr, ac mae’n bosib y bydd yn cau os na fydd yn cael ei werthu cyn mis Hydref. 

Pleidleisiodd y gymuned leol yn unfrydol o blaid prynu’r dafarn mis diwethaf, a bellach mae modd cyfrannu at yr ymgyrch trwy brynu cyfrannau gwerth £200 yr un.

Cafodd Rhys Ifans ei eni yn Sir Benfro ac mae’n debyg ei fod yn gwsmer rheolaidd pan fydd yn ymweld â pherthnasau yn yr ardal.

Ymhlith enwau adnabyddus eraill sydd eisoes wedi estyn eu cefnogaeth mae’r cyflwynydd, Huw Edwards; y sylwebydd rygbi, Wyn Gruffydd; a’r diddanwyr lleol, Bois y Frenni.

Arbennig ac unigryw

“Mae’r ffaith fod cymaint o bobl adnabyddus yn cefnogi’r ymgyrch yn profi fod Tafarn Sinc yn sefydliad arbennig ac unigryw Gymreig. Maen nhw i gyd wedi bod yno,” meddai Hefin Wyn, Cadeirydd dros dro Cymdeithas Tafarn Sinc.

“Byddai’n drychineb pe bai’r lle’n cau. Mae angen mwy o gyfraniadau ar frys er mwyn cyrraedd y targed o fewn yr amserlen. Ceir gwybodaeth ar sut i brynu cyfranddaliadau ar ein gwefan.”

Gwyliwch y fideo: