Biniau ailgylchu (homerecycling.co.uk)
Mae canran y gwastraff sydd yn cael ei ailgylchu yng Nghymru wedi cynyddu yn yr ôl ystadegau diweddaraf.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru ar gyfer y deuddeg mis hyd at fis Mawrth eleni, cafodd 64% o wastraff ei ailgylchu, ail-ddefnyddio neu ei gompostio.

Mae hyn yn gynnydd o 4% o gymharu â’r deuddeg mis hyd at fis Mawrth y llynedd.

Am y pumed flwyddyn yn olynol Ceredigion yw’r sir sydd yn ailgylchu’r canran uchaf o’u gwastraff gyda 70% yn cael ei ailgylchu.

Blaenau Gwent oedd yr unig awdurdod lleol wnaeth fethu a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 58% o wastraff.

Cymru’n arwain

“Mae’r ffigurau ailgylchu diweddaraf yn newyddion da iawn,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

 “Dylem fod yn hynod falch o’n perfformiad wrth ailgylchu yma yng Nghymru. Mae hwn yn faes ble yr ydym yn arwain o fewn y Deyrnas Unedig ac, yn wir, dwy wlad arall sy’n ailgylchu mwy na ni o fewn y byd i gyd.”