Peter Colwell (Llun: o'i gyfrif Facebook)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo pedwar dyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn ifanc mewn maes parcio tafarn yn gynharach eleni.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Peter Robert Colwell, 18, ym maes parcio tafarn Y Llong yn Llanbedrog ar Chwefror 5.

Roedd prawf post mortem wedi dod i’r casgliad i Peter Robert Colwell o Gapel Uchaf farw o un ergyd gwn i’w ben.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo pedwar dyn o droseddau yn ymwneud â gynnau, ac fe fydd y pedwar yn ymddangos gerbron llys ynadon ar Awst 31.