BUPA - cartrefi gofal ar wefan y cwmni
Mae Arweinydd Cyngor Powys wedi bygwth “gweithredu’n gyfreithiol” yn sgil adroddiadau bod grŵp BUPA yn meddwl am werthu cartrefi gofal.

Cyhoeddodd BUPA ddydd Mercher (Awst 23) eu bod yn gobeithio gwerthu 122 o’u cartrefu gofal i’r darparwr gofal HC-One.

Mae BUPA yn rheoli 12 cartref preswyl i’r henoed ym Mhowys ar ran Cyngor Sir Powys, ac nid yw’n glir os oes un o’r rhain ymysg y cartrefi fydd yn cael eu gwerthu.

Yn ôl yr Arweinydd Cyngor, Rosemarie Harris, mae gweithredoedd BUPA yn “anghyfreithlon”, ac mae’r cyngor wedi galw am “gyfarfod brys” gyda’r cwmni.

Mae’r grŵp yn bwriadu dal ymlaen i 150 o’u cartrefu gofal ac wedi nodi mai nod y cam yw i eu “galluogi i ganolbwyntio buddsoddiadau er mwyn parhau i ddarparu gofal safon uchel”.

“Anghyfreithlon”

“Nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad ffurfiol gan BUPA am y mater hwn ac nid ydym wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaethau,” meddai’r Cynghorydd Rosemarie Harris.

“Rydym o’r farn fod gweithredoedd BUPA yn anghyfreithlon, ac rydym yn ystyried cymryd camau cyfreithiol.

“Rydym yn ceisio cael cyfarfod brys gyda BUPA ond nid ydym yn rhagweld unrhyw newid i ddarpariaeth gwasanaeth.

“Mae’r holl wasanaethau y mae’r cyngor wedi’u comisiynu gan BUPA dan gytundeb.

“Byddwn yn ceisio cael sicrwydd gan y cwmni am weithredu yn y dyfodol ac rydym wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r cwmni i drafod y datblygiadau heddiw.”

Ymateb BUPA

“Pan mae gennym ni gyhoeddiad; rydym bob tro yn sicrhau bod ein preswylwyr, gweithwyr a’r rheolyddion yn cael gwybod yn gyntaf,” meddai llefarydd ar ran BUPA.

“Fel rhan o gyhoeddiad dydd Mercher [Awst 23] mi wnaethon ni gysylltu â Chyngor Powys, ac mi fyddwn yn parhau â’n trafodaethau wrth i ni symud ymlaen at drosglwyddo cartrefi.”