Penfro (Chris Gunns CCA 2.0)
Mae Maer Penfro, y Cynghorydd Dai Boswell wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol yn ymwneud â dau blentyn.

Yn ôl yr heddlu, mae wedi ei gyhuddo o chwech achos o ymosod anweddus ac un o dreisio yn erbyn dau blentyn a oedd o dan 13 oed ar y pryd.

Yr honiad yw fod y troseddau wedi digwydd rhwng 1991 ac 1994.

Cafodd y dyn 56 oed ei ethol yn Faer Penfro ym mis Mai ar ôl gyrfa yn y lluoedd arfog a’r Llengfilwyr.

Mae wedi bod yn ymgeisydd cyngor sir ar ran y Ceidwadwyr.

Bydd e’n mynd gerbron ynadon fis nesaf.