Llun cyhoeddusrwydd o un o gynhyrchion y cwmni
Mae swyddi mwy na 90 o weithwyr mewn ffatri yn Sir y Fflint yn y fantol.

Yn ôl undeb Unite mae cwmni Witter Towbars yng Nglannau Dyfrdwy yn bwriadu symud eu gwaith cynhyrchu i “wledydd cost isel”.

Os bydd hynny’n digwydd, fe fydd 94 o bobol yn colli eu swyddi er y byddai gweithwyr yr adrannau gwerthu a gweinyddu yn parhau ar y safle.

Mae Witter Towbars wedi dechrau cyfnod 90 diwrnod o ymgynghori â’i gweithwyr ac undeb Unite.

“Ergyd ofnadwy”

“Mae’r newyddion yn ergyd ofnadwy i’r gweithlu, i’w teuluoedd ac i’r diwydiant cerbydau modur,” meddai Swyddog Rhanbarthol Unite Cymru, Jo Goodchild.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad yw arbenigedd a sgiliau ein gweithwyr yn cael eu colli ac yn cael eu trosglwyddo i gyflogwyr eraill yn y sector.”

Mae Witter yn gwneud offer tynnu ar gyfer ceir, ac offer fel raciau a bocsys to-car.