Lee Searle (Llun Heddlu Gwent)
Mae heddlu sy’n ymchwilio i achos dyn a aeth ar goll ddechrau’r wythnos yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff.

Cafodd Lee Searle, 44, o Gas-gwent ei weld diwethaf yn Sedbury, Swydd Gaerloyw , am 5 y prynhawn ond mae’r heddlu’n dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff yn agos at ei gartre’.

Dydy’r heddlu ddim wedi cyhoeddi enw’r corff yn ffurfiol, ond mae swyddogion wedi cysylltu â chrwner a theulu Lee Searle.

Mae ymholiadau am y farwolaeth yn parhau.