Y tirlithriad (o adroddiad y Cyngor)
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi addo rhoi “adroddiad llawn” ymhen pythefnos i’r bobol sydd wedi’u gorfodi o’u cartrefi yn Ystalyfera oherwydd pryder am dirlithriadau.

Ond mae’n ymddangos y gallan nhw orfod symud yn barhaol ac y gallai’r tai gael eu chwalu am nad oes ffordd o sefydlogi’r tir – o ran cost nac atebion peirianyddol.

Fe fydd arolygon hefyd i weld a yw’r broblem yn effeithio ar fwy o dai yn yr ardal – fe allai’r ffigwr fod cyn uched a 150.

Pwysau ar y trigolion

Ers dechrau’r mis mae deg teulu o Heol Gyfyng, Ystalyfera wedi cael hysbysiad i symud am nad yw eu cartrefi’n ddiogel.

Un o’r rheiny yw Morganne Bendle a’i theulu sydd wedi symud i dŷ dros dro gan ddisgrifio’r profiad yn un “mwyaf stressful” am nad yw’n gwybod beth fydd dyfodol eu cartref, eu hyswiriant na’u morgais.

Yn ôl y Cyngor mae arbenigwyr wedi dod i’r casgliad nad oes modd sefydlogi’r tirlithriadau “mewn unrhyw ffordd sy’n ymarferol yn ariannol ac nad oes unrhyw ddatrysiad peirianyddol dichonol yn bosibl chwaith.”

Dywedodd llefarydd y byddan nhw’n datgelu beth fydd yn digwydd nesaf mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd Ystalyfera nos Iau, Medi 7.

Gorfod symud

Ddechrau Awst, cafodd deg teulu sy’n byw yn nhai teras Heol Cyfyng hysbysiadau brys i adael eu cartrefi.

Yn ôl y Cyngor, mae’r teuluoedd wedi derbyn cynigion llety ac “un ai wedi symud yn barod neu yn y broses  symud”.

Maen nhw hefyd wedi cyflwyno gorchymyn i ddymchwel un tŷ oedd eisoes yn wag ac yn “adfail”.

‘Diogelwch y trigolion’

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor eu bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a bod “cyfarfod ar y gweill” i drafod eu cymorth.

Ychwanegodd y llefarydd mai blaenoriaeth y Cyngor yw “diogelwch a lles y trigolion.”

“Rydym am roi adroddiad mor llawn â phosib i breswylwyr am y sefyllfa hyd yn hyn, ac mae’n bwysig bod yr holl breswylwyr yn yr ardal yn gwybod am y cyfarfod,” meddai Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Tirlithriadau – y cefndir

Mae ardal Pant Teg yn Ystalyfera yn rhan o gylch ehangach yng Nghwm Tawe lle mae pryder am dirlithriadau.

Ers 1897, mae cyfanswm o 26 o dirlithriadau wedi’u cofnodi gyda’r rhai mwyaf diweddar ym mis Chwefror a Mehefin eleni.

Yn ôl datganiad y Cyngor, mae cynnydd wedi bod yn y tirlithriadau yn ddiweddar gyda phedwar achos yn y deuddeg mis diwethaf.

Mae lle i gredu bod cysylltiad rhyngddynt â’r ddaeareg leol, diwydiannau’r ardal a chyfnod hir o law trwm.